Mae o leia’ 22 o bobol wedi marw, a 27 arall wedi’u hanafu, ar ôl i dorf ruthro ar bont gerdded orlawn sy’n cysylltu dwy orsaf drenau ym Mwmbai.

Bu’r rhuthro’r bore yma oherwydd i goncrid ddisgyn, meddai’r heddlu yn India.

Roedd pobol yn meddwl y byddai’r bont yn dymchwel, ac felly wedi gwthio yn erbyn ei gilydd i geisio ffoi oddi arni.

Bu pobol yn cysgodi rhag glaw trwm dan y bont, gan wneud y drasiedi yn waeth, meddai Shaina Nana Chudasama o’r blaid lywodraethol, Bhartiya Janata.