Emyr Gruffydd, ar ei ffordd i Gatalwnia (llun trwy ei law)
Fe fydd criw o genedlaetholwyr ifanc o Gymru yn teithio i Gatalwnia tros y Sul i gefnogi ymdrechion Llywodraeth y wlad i gynnal refferendwm annibyniaeth.

Mae ofn gwrthdaro drwg yno wrth i Lywodraeth Sbaen fygwth defnyddio plismyn i atal y pleidleisio sydd, madden nhw, yn erbyn cyfansoddiad y wladwriaeth.

Y disgwyl yw y bydd 25 aelod o Plaid Cymru Ifanc yn mynd i brifddinas Catalwnia, Barcelona – mae grwpiau ieuenctid o bob rhan o Ewrop yn crynhoi yno dan adain mudiad o’r enw Cynghrair Rydd Ewrop.

Arestio

Ymhlith y Cymry, mae cyfieithydd a fu’n astudio yng Nghatalwnia ac sy’n ffrind i nai un o’r gwleidyddion a’r swyddogion llywodraeth sydd wedi cael eu harestio gan Lywodraeth Sbaen.

“Mae e wedi cael ei ryddhau erbyn hyn,” meddai Emyr Gruffydd, 25 oed o Gaerffili, “ond roedd e yn y ddalfa am dri diwrnod.

Y cyhuddiad yn erbyn Lluis Salvadó, Ysgrifennydd y Trysorlys, oedd ei fod wedi rhoi arian o’r neilltu i gynnal y refferendwm ‘anghyfreithlon’.

Mae heddlu Sbaen yn “dal i gadw llygaid” arno, yn ôl Emyr Gruffydd, “ac roedd hi’n anodd i’r teulu gan nad oedden nhw yn cael unrhyw gysylltiad gydag e doedden nhw ddim yn siŵr [ymhle roedd yn cael ei gadw].”

Cyfarfodydd

Fe fydd gan y ddwy lywodraeth gyfarfodydd heddiw i chwilio am gyfaddawd ond does dim arwyddion o hynny.

Mae Llywydd yr Undeb Ewropeaidd wedi galw arnyn nhw i geisio cael cytundeb.

Ond, yn ôl Emyr Gruffydd, mae Llywodraeth Sbaen yn ceisio “dinistrio datganoli” yng Nghatalwnai.

Un arwydd, meddai, yw’r penderfyniad i dynnu heddlu lleol Catalwnia, y Mossos d’Esquadra, o dan yr heddlu canolog, ond mae’n bosib y bydd y Catalaniaid yn gwrthod hynny.