Yn ôl adroddiadau, mae Tsieina wedi gorchymyn bod busnesau yn y wlad â pherchnogion o Ogledd Corea yn cael eu cau.
Bydd yn rhaid i’r busnesau, sy’n berchen i gwmnïau neu unigolion o Ogledd Corea, ddod i ben o fewn 120 diwrnod o’r dyddiad pan ddaeth sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig i rym, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn Tsieina.
Cafodd y sancsiynau diweddaraf eu cyflwyno ar Fedi 11, a hyd yma mae diwydiannau glo a thecstilau’r wlad wedi cael eu targedu.
Nod sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig yw mynd i’r afael â’r bygythiad yn dilyn lansio taflegrau niwclear Gogledd Corea.
Tsieina yw prif bartner masnach Gogledd Corea.