Mae rhybudd i deithwyr y gallai llosgfynydd ar ynys Bali ffrwydro o fewn y 24 awr nesaf.

Fe fu’n rhaid i fwy na 57,000 o bobol adael yr ardal beryglus, sy’n ymestyn hyd at 7.5 milltir i ffwrdd o grater mynydd Agung.

Dydy’r llosgfynydd ddim wedi ffrwydro ers 1963, pan laddodd 1,100 o bobol.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, mae tua 330,000 o bobol o wledydd Prydain yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn, ac mae Awdurdod Rheoli Trychinebau Cenedlaethol Indonesia yn dweud bod ffrwydrad yn bosibl o fewn y 24 awr nesaf.

Fe allai llwch o’r ffrwydrad achosi oedi i deithwyr ar awyrennau ac felly mae’r awdurdodau’n gofyn i deithwyr gysylltu â’u hasiantaethau cyn teithio.

Mae asiantaethau’n cynghori pobol i wrando ar gyfarwyddiadau’r awdurdodau lleol, gan gynnwys cadw draw o ardal y llosgfynydd.