Donald Trump
Fe fydd dinasyddion wyth o wledydd – yn cynnwys Gogledd Corea a Feneswela – yn wynebu cyfyngiadau newydd ar fynd a dod o’r Unol Daleithiau, dan broclamasiwn sydd wedi’i arwyddo gan yr Arlywydd Donald Trump.

Fe fydd y rheolau newydd yn effeithio ar drigolion Chad, Iran, Libya, Gogledd C0rea, Somalia, Syria, Feneswela a Yemen, yn dod i rym ar Hydref 18.

Mae’r cyfyngiadau newydd yn amrywiol o waharddiad fisas ar gyfer trigolion Syria, i gyfyngiad ar fisas ar gyfer pobol Feneswela, ac fe fydd yn targedu’n benodol swyddogion y llywodraeth a’u teuluoedd.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yr un diwrnod â’r gwaharddiad dros-dro ar ymwelwyr o chwech o wledydd Mwslimaidd ddod i ben. Roedd y gwaharddiad hwnnw yn targedu dinasyddion Iran, Libya, Somalia, Swdan, Syria a Yemen.