Mae adroddiadau bod Angela Merkel wedi ennill etholiadau’r wlad, ac y bydd hi’n parhau’n Ganghellor am bedwerydd tymor.

Yn ôl polau piniwn gan ARD a ZDF, dwy sianel deledu, mae ei phlaid wedi ennill rhwng 32.5% a 33.5% o’r bleidlais.

Y Democratiaid Sosialaidd o dan arweinyddiaeth Martin Schulz sy’n ail, gyda rhwng 20% a 21% o’r bleidlais.

Ac mae disgwyl bod y blaid Alternativ für Deutschland wedi ennill seddau am y tro cyntaf gyda hyd at 13.5% o’r bleidlais.