Mae chwaraewyr pêl-droed Americanaidd wedi protestio yn erbyn yr Arlywydd Donald Trump drwy benlinio yn ystod yr anthem genedlaethol yn stadiwm Wembley.

Mae’r Jacksonville Jaguars wedi bod yn herio’r Baltimore Ravens.

Roedden nhw’n protestio yn erbyn sylwadau gan Donald Trump, oedd yn beirniadu chwaraewyr sy’n penderfynu penlinio tra bod Star-Spangled Banner yn cael ei chanu cyn gemau.

Dywedodd y dylai perchnogion y timau ddiswyddo chwaraewyr sy’n dewis protestio yn y fath fodd, ac y dylai cefnogwyr adael y stadiwm pe bai’n digwydd.

Fe benderfynodd mwy na dwsin o chwaraewyr benlinio yn ystod yr anthem heddiw ac fe benderfynodd y rheiny nad oedden nhw wedi penlinio y bydden nhw’n creu cadwyn ddynol gyda’u breichiau.

Datganiad

Yn fuan ar ôl i’r gêm ddechrau, dywedodd y Baltimore Ravens mewn datganiad ar eu tudalen Twitter: “Rydym yn cydnabod dylanwad chwaraewyr. Rydym yn parchu eu protest ac yn eu cefnogi nhw 100%. Rhaid clywed pob llais. Dyna ddemocratiaeth yn ei ffurf fwyaf.”

Fe gyhoeddodd y Jacksonville Jaguars lun o’r chwaraewyr yn creu’r gadwyn ddynol, gan ddefnyddio’r capsiwn “Undod”.

Datganiad pellach yr Arlywydd

Cyn y gêm, fe wnaeth yr Arlywydd Donald Trump droi at Twitter unwaith eto, gan ddatgan: “Pe bai cefnogwyr yr NFL yn gwrthod mynd i gemau tan bod chwaraewyr yn rhoi’r gorau i amharchu ein baner a’n gwlad, fe welwch chi newid yn digwydd yn gyflym. Diswyddo neu ddiarddel!”

Fe alwodd ar yr NFL i gefnogi ei safbwynt.

Mae disgwyl i ragor o dimau ddilyn esiampl y ddau dîm yn Wembley pan fyddan nhw’n chwarae heno.