Mae’r Unol Daleithiau wedi anfon rhybudd at Ogledd Corea drwy hedfan awyrennau tros y ffin o Dde Corea.

Dyma’r agosaf at y ffin mae unrhyw awyren o’r Unol Daleithiau wedi hedfan yn ystod y ganrif hon.

Yn ôl adroddiadau, rhybudd oedd hyn am “ymddygiad difater” Gogledd Corea ac y gallai “un o nifer o opsiynau” gael ei ddefnyddio er mwyn atal unrhyw fygythiad.

Ond mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un wedi dweud y bydd yr Arlywydd Donald Trump yn “talu’n ddrud” am fygwth “dinistrio” y wlad pe bai’n cynnal ymosodiad.

Daw ei sylwadau ar ôl i’w Weinidog Tramor ddweud yr wythnos hon y gallai ymosodiad o’r fath fod “y ffrwydrad H-bom mwyaf pwerus yn y Môr Tawel”.

Mae Gogledd Corea eisoes wedi bygwth adeiladu taflegryn mor bwerus nes y gallai ddinistrio rhannau helaeth o’r Unol Daleithiau.

Ffrae

Mewn neges ar ei dudalen Twitter, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump: “Fe fydd Kim Jong Un o Ogledd Corea, sy’n amlwg yn wallgofddyn nad oes ots ganddo fe newynu na lladd ei bobol ei hun, yn cael ei brofi’n fwy nag erioed o’r blaen.”

Mewn neges arall, dywedodd am bobol Gogledd Corea “na fyddan nhw o gwmpas lawer hirach” pe bai’r Gweinidog Tramor yn parhau i fygwth yr Unol Daleithiau.

Ddydd Iau, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau ragor o sancsiynau yn erbyn Gogledd Corea, gan dargedu cwmnïau sy’n masnachu â’r wlad.

Ond mae Kim Jong Un wedi cyhuddo’r Arlywydd o fod yn “orffwyll”.