Angela Merkel
Gydag etholiad cenedlaethol yr Almaen yn cael ei gynnal yfory, mae’r Canghellor Angela Merkel yn pwyso ar ei chefnogwyr i ddal ati i ymgyrchu hyd at y diwedd.

Mae Angela Merkel yn gobeithio ennill pedwerydd tymor fel Canghellor ac mae ei chlymblaid ar y blaen yn yr arolygon barn gyda rhwng 34% a 37% o’r bleidlais.

Er hyn mae wedi colli rhywfaint o gefnogaeth dros yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd wrth ei chefnogwyr yn Berlin heddiw bod angen iddyn nhw ddal ati i berswadio etholwyr, gan fod llawer yn penderfynu yn yr oriau olaf.

“Does gennym yr un bleidlais i’w rhoi i ffwrdd,” meddai. “Allwn ni ddim defnyddio arbrofion – mae arnom angen sefydlogrwydd a diogelwch.”

Fe fu ei phrif wrthwynebydd, Martin Schultz, arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol, yn annerch rali yn ninas Aachen yng ngorllewin y wlad, gan ddweud iddyn nhw gael ymgyrch wych, beth bynnag fydd y canlyniad yfory.

Pwysodd ar yr Almaenwyr i beidio â chefnogi’r blaid asgell dde, Alternative for Germany (AfD), sy’n debygol o ennill seddau yn y senedd am y tro cyntaf.

“Byddwn yn amddiffyn democratiaeth yn yr Almaen,” meddai.

Yn ogystal â’r AfD, mae’r Gwyrddion, plaid y Democratiaid Rhyddion a phlaid yr asgell chwith hefyd yn debygol o ennill seyddau yn y senedd, ac felly mae sawl cyfuniad o glymblaid yn bosibl.