Mae China wedi cyhoeddi y bydd yn cyfyngu ar gyflenwadau olew i Ogledd Corea ac yn rhoi’r gorau i brynu tecstilau ganddi.

Fe fydd yn cyfyngu ar allforion o betrolewm i ddwy filiwn o fareli’r flwyddyn o Ionawr 1 ymlaen ac yn rhoi’r gorau’n llwyr i werthu nwy naturiol iddi.

Mae Gogledd Corea yn dibynnu ar China am bron i’r cyfan o’i olew a nwy, ond yn ôl amcangyfrifon, isel yw ei defnydd ohonyn nhw. Nid yw’r cyfyngiadau yn effeithio ar olew crai chwaith, sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o allforion ynni i’r wlad.

Mae’r cyfyngiadau’n rhan o waharddiadau’r Cenhedloedd Unedig mewn ymateb i ddatblygiad niwclear a thaflegrau Gogledd Corea.

Mae 90% o fasnach y wlad gyda China, sy’n golygu ei bod yn ddibynnol iawn ar ei chydweithrediad. Nid yw’n glir, fodd bynnag, faint o effaith y bydd y gwaharddiadau diweddaraf yn eu cael ar gyfundrefn Kim Jong Un yn Pyongyang.