Mae miloedd o brotestwyr wedi ymgasglu yng Nghatalwnia heddiw, i fynnu rhyddhau swyddogion sydd wedi’u harestio yn “anghyfreithlon” gan awdurdodau Sbaen.

Fe ddaeth y gwrthdystwyr ynghyd wrth glwydi swyddfeydd cyfreithiol Catalwnia yn ninas Barcelona, mewn ymateb i alwad i gynnal protestiadau ar y stryd yn erbyn y modd y mae heddlu Sbaen wedi ymateb mor llawdrwm yr wythnos hon.

Mae’r heddlu – mewn ymateb i orchymyn gan farnwr – wedi mynd â deg miliwn o bapurau pleidleisio, ac wedi arestio dwsin o bobol, y rhan fwyaf o’r rheiny’n swyddogion yn llywodraeth Catalwnia. Maen nhw’n cael eu hamau o gydlynu’r refferendwm annibyniaeth ar Hydref 1.

Mae ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth wedi mynnu y bydd y bleidlais yn mynd rhagddi, er gwaetha’r rhwystrau.