Mae nifer y meirw yn sgil daeargryn wnaeth daro canol Mecsico ar ddechrau’r wythnos, wedi codi i 230.

Cadarnhaodd awdurdodau brynhawn ddoe bod 52 o bobol wedi eu hachub o rwbel ym mhrifddinas y wlad, Dinas Mecsico. Fe gafodd 11 o’r rheiny eu hachub o ysgol yno.

Mae’r daeargryn wedi dinistrio dwsinau o strydoedd mewn tref yn nhalaith Jojutla, a chwalodd tri thŵr o fflatiau mewn rhan o Ddinas Mecsico.

Mae 100 wedi marw yn y ddinas, 69 yn nhalaith Morelos, 43 yn Puebla, a bu farw’r gweddill yn nhalaith Mecsico.

Bydd tridiau o alaru yn cael eu cynnal yn y wlad.