Mae plentyn wedi cael ei ddarganfod yn fyw o dan rwbel yn dilyn y daeargryn ym Mecsico sydd wedi lladd 225 o bobol.

Roedd y daeargryn yn mesur 7.1 ar raddfa Richter.

Cafwyd hyd i’r ferch ar safle ysgol Enrique Rebsamen yn ne Dinas Mecsico.

Roedd hi wedi codi ei llaw ar dimau achub cyn i gi fynd i mewn i’r rwbel i gadarnhau ei bod hi’n fyw.

Mae 94 o bobol wedi marw yn y ddinas, 71 yn nhalaith Morelos, 43 yn Puebla, 12 yn nhalaith Mecsico, pedwar yn Guerrero ac un yn Oaxaca.