Charle Puigdemont, arweinydd Catalwnia (Llun: Wicipedia)
Mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont wedi cyhuddo llywodraeth Sbaen o ddangos “agwedd dotalitaraidd” wrth iddyn nhw geisio atal y refferendwm annibyniaeth.

Mae nifer o swyddogion a gweision sifil wedi cael eu harestio ar ôl i awdurdodau Sbaen fynd i mewn i swyddfeydd llywodraeth Catalwnia a mynd â deunydd o blaid annibyniaeth oddi yno.

Mae llywodraeth Catalwnia yn mynnu y bydd y refferendwm yn mynd rhagddo ar Hydref 1 er iddyn nhw gael eu bygwth â chyfraith.

Mae Carles Puigdemont yn honni bod ymddygiad yr heddlu yn anghyfreithlon a’u bod nhw’n ceisio atal y refferendwm rhag cael ei gynnal.

Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi atal y bleidlais am y tro, sy’n cyfateb i waharddiad ar hawl Catalwnia i reoli ei hun, meddai.

Tyndra

Daw sylwadau Carles Puigdemont ar ôl i 12 o bobol gael eu harestio yn dilyn cyrchoedd ar swyddfeydd llywodraeth Catalwnia.

Dyma’r tro cyntaf i lywodraeth Sbaen gymryd y fath gamau ers i’r ymgyrch fagu coesau yn 2011.

Mae miloedd o drigolion Catalwnia wedi ymgasglu yn Barcelona i brotestio yn erbyn llywodraeth Sbaen, a rhai ohonyn nhw’n aros yng nghanol y ffordd i atal traffig tra bod eraill yn ymladd â’r heddlu.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u harestio mae Ysgrifennydd Cyffredinol Materion Economaidd Catalwnia, Josep Maria Jove.

Mae cyrchoedd yr awdurdodau’n canolbwyntio’n bennaf ar adrannau economaidd a thramor y llywodraeth.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi amddiffyn gweithredoedd yr awdurdodau, gan ddweud bod “rhaid gweithredu” – a hynny’n cynnwys rhoi grym ariannol yn ôl i Sbaen o Gatalwnia.