Mae 12 o bobol wedi cael eu harestio wrth i lywodraeth Sbaen geisio atal trigolion Catalwnia rhag cynnal refferendwm annibyniaeth ar Hydref 1.

Fe fu’r awdurdodau’n chwilio swyddfeydd llywodraeth Catalwnia gan fod llywodraeth Sbaen yn honni bod y refferendwm annibyniaeth yn un anghyfreithlon ac anghyfansoddiadol.

Adrannau economaidd a thramor llywodraeth Catalwnia gafodd eu targedu’n benodol fore heddiw, yn ôl adroddiadau.

Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull yn ninas Barcelona, prifddinas Catalwnia, er mwyn protestio yn erbyn yr awdurdodau. Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio mae ysgrifennydd cyffredinol materion economaidd Catalwnia, Josep Maria Jove.

Ond dyw’r heddlu na’r gwasanaethau barnwrol ddim wedi cadarnhau union fanylion yr ymchwiliad, gan fynnu bod y cyfan yn gyfrinachol.