Mae disgwyl i Gorwynt Maria barhau ar ei daith ddinistriol heddiw, gan daro Ynysoedd y Wyryf ar gyflymder o 175 milltir yr awr.

Yn ôl awdurdodau’r ynys, mae disgwyl bydd “gwyntoedd dinistriol ynghyd â stormydd a glaw fydd yn bygwth bywydau”.

Mae un person eisoes wedi cael ei ladd gan y corwynt – unigolyn ar ynys Ffrengig Guadeloupe cafodd ei ladd gan goeden wnaeth ddisgyn – ac mae dau berson ar goll.

Cafodd Dominica ei tharo gan y corwynt ddydd Llun a bellach mae 70% o adeiladau wedi colli eu toeon.

 Maria yn ymlwybro tuag at Puerto Rico, mae awdurdodau wedi erfyn ar boblogaeth 3.5 miliwn yr ynys i baratoi a chysgodi.