Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Wrth annerch cynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd am y tro cyntaf ers dod yn Arlywydd, mae Donald Trump wedi bygwth “dinistrio’n llwyr” Gogledd Corea.

Daw ei sylwadau wedi i Ogledd Corea lansio prawf niwclear ynghyd â thaflegryn balistig dros Siapan.

Dywedodd fod y profion hyn yn cyflwyno bygythiadau “i’r byd i gyd gyda cholled o fywyd na allwn ni ei ddychmygu.”

Dywedodd y byddai’r Unol Daleithiau “pe bai’n cael ei orfodi i amddiffyn ei hun neu ei gynghreiriaid, fe fydd gennym ddim dewis ond dinistrio’n llwyr Ogledd Corea.”

Mae hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Iran am gynnal “gwladwriaeth economaidd dwyllodrus” ac wedi annog y cenhedloedd i ddod ynghyd i rwystro eu cynllun niwclear.