Mae Llywodraeth India yn honni fod eithafwyr ymysg Mwslemiaid Rohingya sydd wedi ffoi o Burma ac ymgartrefu mewn dinasoedd yn India.

Daeth yr honiadau yn ystod gwrandawiad ar ran dau ffoadur yng Ngoruchaf Lys India.

Roedd y gwrandawiad yn gysylltiedig â phenderfyniad Llywodraeth India i anfon grŵp y Rohingya o’r wlad.

Dywedodd cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r ffoaduriaid, mai ymgais i annog “ymdeimlad gwrth-Fwslimaidd” yw’r penderfyniad.

Mae Llywodraeth India wedi dweud y byddan nhw’n darparu tystiolaeth o’r cysylltiad rhwng eithafwyr Islamaidd a’r Rohingya yn ystod gwrandawiad ar Hydref 3.

Gwnaeth llawer o’r Rohingya ffoi Burma yn 2012, a gwnaeth cannoedd o filoedd yn rhagor adael yn sgil ymgyrchoedd byddin y wlad ym mis Awst eleni.