Mae llu heddlu parafilwrol Sbaen wedi cymryd 1.3 miliwn o bosteri a phamffledi sy’n hybu’r refferendwm arfaethedig ar annibyniaeth i Gatalwnia.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cymryd y pamffledi ddydd Sul  yn ystod cyrchoedd ar fusnes yn nhalaith Barcelona sy’n dosbarthu deunydd hysbysebu.

Yn ôl yr heddlu mae nifer yr eitemau sy’n cefnogi’r refferendwm ar annibyniaeth sydd bellach wedi cael eu dinistrio wedi codi i 1.5 miliwn.

Mae llywodraeth Sbaen wedi rhoi addewid i atal y bleidlais arfaethedig ar 1 Hydref gan ddweud ei fod yn anghyfreithlon. Ond mae arweinwyr Catalwnia wedi bwrw mlaen gyda’u cynlluniau.

Mae arolygon barn yn dangos bod tua hanner y 7.5 miliwn o drigolion yng Nghatalwnia o blaid annibyniaeth.