Awyren British Airways (Llun: BA)
Mae awyren British Airways wedi gadael Paris ar ôl i blismyn arfog ei chwilio yn dilyn “bygythiad uniongyrchol” i’r awyren bore ma.

Cafodd yr awyren ei chadw ar y llain lanio yn Charles de Gaulle a’i hamgylchynu gan heddlu arfog a cherbydau’r gwasanaethau brys tua 8yb bore dydd Sul.

Dywedodd British Airways: “Mae diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff wastad yn flaenoriaeth. Fe fydd gwiriadau diogelwch ychwanegol yn cael eu cynnal fel rhagofal.”

Am tua 11.10yb, fe gadarnhaodd llefarydd ar ran British Airways bod yr awyren bellach wedi parhau a’i thaith i Heathrow yn Llundain.

Nid oedd y cwmni yn fodlon datgelu beth oedd natur y bygythiad honedig.

Daw’r digwyddiad wrth i’r tensiynau yn y Deyrnas Unedig gynyddu yn sgil ymosodiad bom ar drên yn Parsons Green yn Llundain ddydd Gwener.