Mae protestwyr wedi addo cynnal mwy o wrthdystiadau, wedi i lys gael cyn-blismon yn St Louis yn ddieuog o saethu dyn du yn farw.

Fe fu cannoedd o bobol yn protestio’n heddychlon am oriau ddydd Gwener, nes i ffenest cartref maer St Louis gael ei thorri ac i’r tensiwn gynyddu. Fe gafodd nwy dagrau ei ddefnyddio gan yr heddlu reiat er mwyn gwasgaru’r dorf.

Roedd ymgyrchwyr wedi bod yn bygwth gweithredu trwy anufudd-dod sifil ers rhai wythnosau, pe na bai Jason Stockley yn cael ei gosbi am ladd Anthony Lamar Smith, 24, yn 2011.

Fe gafodd mwy na 20 o bobol eu harestio erbyn nos Wener (Medi 15), ac mae’r heddlu’n dweud i ddeg o swyddogion gael eu hanafu cyn diwedd y dydd.