Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea wedi tanio ail daflegryn balistig dros Japan i’r Môr Tawel.

Yn ôl awdurdodau De Corea, teithiodd y taflegryn tua 2,300 o filltiroedd gan gyrraedd uchder o 478 milltir, cyn plymio i’r dŵr.

Mae arlywydd De Corea, Moon Jae-in, bellach wedi dweud wrth ei swyddogion i gynnal mesurau diplomataidd a milwrol “llym” yn erbyn ei chymdogion.

Ers i Donald Trump fygwth Gogledd Corea gyda “thân a ffyrnigrwydd” ym mis Awst, mae Pyongyang wedi cynnal ei brawf niwclear mwyaf pwerus ac wedi lansio dau daflegryn dros Siapan, sy’n gyfaill i America.

Mae datblygiadau diweddaraf i’w gweld yn dangos bod y wlad yn agosach nag erioed i dargedu’r Unol Daleithiau a’i milwyr yn Asia.

Mae Gogledd Corea wedi dweud tro ar ôl tro y byddan nhw’n parhau gyda’r profion hyn mewn ymateb i’r degau o filoedd o filwyr Americanaidd sy’n Japan ac yn Ne Corea.

Mae disgwyl cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd y prynhawn yma i drafod y mater.