Mae 19 o bobol wedi marw wedi i gwch droi drosodd ar afon Yamuna yng ngogledd India.

Yn ol yr heddlu, roedd yna fwy na 60 o bobol yn teithio yn y cwch pan drodd ger tref Baghpat yn nhalaith Uttar Pradesh yn gynnar ddydd Iau.

Fe lwyddodd deg o bobol i nofio i ddiogelwch, tra bod 31 o bobol yn dal i fod ar goll. Fe gafodd 19 o gyrff eu tynnu o’r afon.

Mae’r awdurdodau’n ymchwilio i achos y ddamwain – er, maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n amau bod gormod o bobol yn y cwch oedd wedi’i gwneud i gario 35 o bobol.