Clirio wedi Corwynt Irma (Llun: Joel Rouse//MoD/Crown/PA Wire)
Mae cyflenwad pŵer nifer o ardaloedd yn Fflorida wedi cael ei adfer wrth i’r gwaith o glirio’r ffyrdd ac adnewyddau cyflenwadau tanwydd y dalaith ddechrau yn dilyn corwynt Irma.

Mae rhai trigolion wedi cael dychwelyd i’w cymunedau i weld y dinistr sydd wedi cael ei achosi, gan gynnwys llifogydd drwy’r strydoedd, a thai wedi cael eu difetha.

Mae rhai teithiau awyr wedi dechrau eto a gwasanaethau cyhoeddus ar agor unwaith eto yn dilyn y gwyntoedd oedd wedi cyrraedd cyflymdra o hyd at 130 milltir yr awr.

Yn ôl yr awdurdodau sy’n cyfri’r gost, mae 25% o gartrefi yn ardal y Keys wedi cael eu dinistrio’n llwyr, a 65% wedi cael difrod sylweddol.

Mae deuddeg o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i’r corwynt yn y dalaith, ynghyd â phedwar yn Ne Carolina a dau yn Georgia.

Cafodd o leiaf 37 o bobol eu lladd yn ynysyoedd y Caribî.

Mae’r awdurdodau wedi neilltuo hyd at 250 miliwn o ddoleri (£190 miliwn) er mwyn dechrau ar y gwaith o adfer cymunedau, ac mae 9.5 miliwn o bobol heb gyflenwad pŵer o hyd, sy’n cyfateb i ychydig yn llai na hanner poblogaeth Fflorida.

Mae 110,000 mewn llochesi o hyd.