Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea Llun: PA
Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cytuno ar sancsiynau newydd ar Ogledd Corea mewn ymateb i’w prawf niwclear mwyaf grymus.

Er hyn roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau a’i lywodraeth am weld sancsiynau llymach oedd yn cynnwys gwaharddiad llwyr ar fewnforio olew a allai fod wedi tanseilio economi’r wlad.

Ond yn y cyfarfod fe ddaeth y Cyngor i gytundeb ar sancsiynau sy’n cynnwys cyfyngu ar fewnforion olew, gwahardd allforion tecstilau a chyfyngu gwledydd rhag awdurdodi trwyddedau dramor i weithwyr Gogledd Corea.

Cafodd ymgais i rewi asedau rhyngwladol y llywodraeth a’r arweinydd Kim Jong Un hefyd eu gwrthod.

‘Arwyddocaol’

Dywedodd llysgennad yr Unol Daleithiau, Nikki Haley, mai dyma’r “mesurau cryfach erioed i’w cyflwyno ar Ogledd Corea.”

Ychwanegodd fod y datrysiad wedi dod oherwydd “arweiniad cryf” rhwng Arlywydd Donald Trump ac Arlywydd China, Xi Jinping.

Ac yn ôl llysgennad y Deyrnas Unedig yn yr Unol Daleithiau, Matthew Rycroft, mae’r rhain yn “sancsiynau ychwanegol arwyddocaol iawn.”