Mae 27 o bobol wedi’u hanafu ar ôl i drên wrthdaro yn y Swistir.

Cafodd yr heddlu a thimau meddygol eu galw i’r digwyddiad yng nghanol tref Andermatt wedi i’r trên locomotif wrthdaro i mewn i gerbydau teithio yn yr orsaf.

Mae lle i gredu bod tua 100 o deithwyr ar y pum cerbyd ac mae llefarydd ar ran y gweithredwr trenau, Matterhorn Gotthard Bahn, wedi cadarnhau fod yr awdurdodau yn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.

Nid oes manylion pellach am ddifrifoldeb yr anafiadau hyd yn hyn.