Corwynt Irma (llun parth cyhoeddus)
Mae Corwynt Irma yn dangos arwyddion ei fod yn gwanhau ac fe allai gael ei israddio i storm drofannol heddiw wrth iddo nesáu at y gogledd.

Ond mae rhybuddion bod Irma yn dal i beri risg i fywydau, wrth i’r corwynt barhau i achosi dinistr yn Fflorida gyda gwyntoedd yn hyrddio hyd at 100 milltir yr awr a glaw trwm.

Gallai’r storm achosi rhagor o lifogydd yn y dalaith, meddai’r Ganolfan Gorwyntoedd Cenedlaethol.

Mae trigolion ac ymwelwyr wedi cael gorchymyn i aros yn eu cartrefi neu westai nes bod y storm wedi dod i ben. Mae ffyrdd wedi cau a miloedd o gartrefi heb gyflenwad trydan.

Hyd yn hyn, mae 24 o bobl wedi’u lladd gan Gorwynt Irma wrth iddo wneud ei ffordd ar draws yr Atlantig, ac mae miloedd o bobl yn ddigartref.