Mae’r Groes Goch wedi mynegi eu sioc yn dilyn marwolaeth aelod o staff yn Ne Sudan, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi rhybudd am ddiogelwch yn y wlad.

Mae gweithwyr dyngarol mewn perygl cynyddol yn y wlad sydd yng nghanol rhyfel cartref.

Mewn datganiad, dywedodd y mudiad fod y gyrrwr Lukudu Kennedy Laki Emmanuel wedi cael ei saethu’n farw gan ymosodwyr ar ôl mynd â chymorth dyngarol i Orllewin Ecwatoria.

Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig wedi dweud bod y sefyllfa yn y wlad yn gwaethygu, gydag ymdrechion ar y gweill i gyrraedd hyd at chwe miliwn o drigolion – hanner y boblogaeth – sy’n dioddef o brinder bwyd.

Mae o leiaf 84 o weithwyr dyngarol wedi cael eu lladd yno ers 2013, gan gynnwys 17 eleni, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n bobol leol.

Mae oddeutu 300 o weithwyr dyngarol wedi cael eu symud ers mis Ionawr yn sgil y pryderon am eu diogelwch.

Mae degau o filoedd o bobol wedi cael eu lladd yno ers 2013, a miliynau wedi ffoi.