Mae 400 o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi mewn saith o drefi yn nhalaith Sevilla yn Sbaen.

Dechreuodd y tân gwreiddiol ddydd Gwener.

Mae tua 120 o bobol wedi cael lloches mewn llyfrgell, canolfan chwaraeon ac ysgol wrth i fwy na 130 o ddiffoddwyr frwydro yn erbyn y fflamau 65 troedfedd sy’n ymestyn dros bellter o 12 milltir.

Dydy hi ddim yn glir eto faint o ddifrod sydd wedi cael ei achosi.