Mae tua 164,000 o leiafrif y Rohingya wedi llifo dros y ffin o Myanmar i Bangladesh ers i ymladd treisgar ddechrau yn Burma ar Awst 25.

Dyma ystadegau diweddaraf asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig. Ac mae disgwyl i’r nifer godi eto, wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid godi pac bob dydd a mynd i chwilio am ddiogelwch.

Mae’r ffoi wedi achosi trafferthion yn Bangladesh, wrth i filoedd o bobol gysgu allan mewn caeau agored, neu feddiannu eu corneli bach eu hunain mewn caeau mwdlyd yn y tir neb rhwng y ddwy wlad.

Mae comisiwn y Cenhedloedd Unedig, dan lywyddiaeth y cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan, wedi annog Myanmar i gyflwyno mesurau cyflym er mwyn gwella amodau byw ac i ddod â’r trais rhwng y Bwdiaid a’r Mwslimiaid i ben yn nhalaith Rakhine.