Mae llys yn India wedi dedfrydu dau ddyn i farwolaeth, a dau arall i oes yng ngharchar, am gyfres o ffrwydriadau a laddodd 257 o bobol yn ninas Mumbai yn 1993.

Mae pumed dyn i dreulio deng mlynedd yng ngharchar.

Fe gafwyd y pum dyn yn euog o gynllwynio troseddol ac o lofruddiaeth trwy osod dwsin o fomiau pwerus mewn ceir, ar sgwters ac mewn cesys yma ac acw ym mhrifddinas ariannol India.

Dyma’r ail achos i gael ei gynnal i’r ffrwydriadau. Ar ddiwedd yr achos cyntaf, fe gafwyd dros 100 o bobol yn euog – fe gafodd 11 o’r rheiny eu dedfrydu i farwolaeth, ac fe dreuliodd y gweddill gyfnodau amrywiol yng ngharchar. .