Mae Corwynt Irma yn parhau ar ei lwybr trwy’r Caribî, gan ddinistrio adeiladau ac achosi hafog ar ynysoedd yr ardal.

Yn nhiriogaethau Ffrengig St Martin a St Barts mae o leiaf saith o bobol wedi marw. 

Cafodd bron pob un o adeiladau ynys Barbuda eu dinistrio ddydd Mercher (Medi 7), a bu farw plentyn dwy flwydd oed yno wrth i deulu geisio ffoi. 

Yn ôl Prif Weinidog Barbuda, mae 60% o boblogaeth yr ynys bellach yn ddigartref a “does bron dim modd byw yno mwyach.”

Bellach mae Irma yn teithio’n raddol tuag at y Bahamas a thiriogaethau Prydeinig, ynysoedd Turks a Caicos.

 gwyntoedd cryfion 185 milltir yr awr, Corwynt Irma yw un o’r corwyntoedd cryfaf erioed yn y môr Iwerydd.