Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi cyrraedd Colombia ar gyfer ymweliad pum niwrnod a fydd, mae’n gobeithio, yn rhoi hwb i broses heddwch y wlad.

Fe gyrhaeddodd Ffransis ar awyren o Rufain i faes awyr milwrol Bogota.

Yno, fe gafodd ei groesawu gan yr Arlywydd Juan Manuel Santos ynghyd â cherddorfa symffonig yn chwarae cerddoriaeth werin a darnau clasurol gan Vivaldi a Beethoven.

Mae’r ymweliad hwn wedi bod ar y gweill ers rhai blynyddoedd, ond fe gafodd ei ohirio wrth i lywodraeth Colombia gynnal trafodaethau heddwch gyda Lluoedd Heddwch Chwyldroadol.

Mae’r Pab wedi bod yn gefnogol iawn i’r broses heddwch ac o ddod o hyd i gyfaddawd gyda’r gwrthryfelwyr. Ond mae wedi pwysleisio fod yn rhaid hefyd parchu barn y nifer fawr o Gatholigion ceidwadol sydd wedi pleidleisio’n erbyn y fargen mewn refferendwm genedlaethol.