Dyn yn cario plentyn wedi ymosodiad cemegol yn Idlib (Llun: Edlib Media Center, via AP)
Awyren a gafodd ei hadeiladu yn Rwsia oedd yr un a gafodd ei defnyddio gan lywodraeth Syria i ymosod ar bobol y wlad gyda’r nwy Sarin yn ystod gwanwyn eleni.

Dyna ganlyniad ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig i’r digwyddiad pan laddwyd o leiaf 83 o bobol ddiniwed.

Mae’r adroddiad diweddaraf gan Ymchwiliad Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Syria, yn dweud fod lluoedd yr Unol Daleithiau wedi “methu â chymryd gofal digonol” er mwyn gwarchod pobol gyffredin wrth iddyn nhw ymosod ar frawychwyr honedig yn Aleppo ym mis Mawrth eleni.

Mae’n cyfeiriad yn arbennig at un ymosodiad lle cafodd rhan o fosg ei dinistrio.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno’r dystiolaeth gryfaf eto mai lluoedd yr Arlywydd Bashar Assad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar Khan Sheikhoun yn nhalaith Idlib ar Ebrill 4.

Mae’r adroddiad diweddaraf hwn, a gyhoeddwyd ddydd Mercher (Medi 6) yn cyfeirio at y cyfnod rhwng Mawrth a dechrau Gorffennaf, 2017.