Aung San Suu Kyi, arlywydd Myanmar
Mae cwch yn cario Mwslimiaid Rohingya yn ffoi rhag y trais yn Burma, wedi troi drosodd, ac mae beth bynnag bump o bobol wedi marw.
Mae 125,000 o ffoaduriaid bellach wedi croesi’r ffin o Myanmar i Bangladesh.
Fe ddaeth trigolion pentref pysgota Shah Porir Dwip o hyd i bum corff ben bore Mercher, oriau wedi i’r cwch droi drosdd tua hanner nos, nos Fawrth. Dyw hi ddim yn glir o lle’n union yr oedd y cwch wedi hwylio.
Dyw hi ddim yn glir chwaith os oedd y teithwyr ar y cwch ymhlith 450 o ffoaduriaid a oedd wedi’u rhwstro rhag croesi’r ffin yn gynharach ddydd Mawrth.
Mae arlywydd Myanmar (Burma), Aung San Suu Kyi, wedi rhoi’r bai ar ymgyrch o rannu ffug wybodaeth am danio’r argyfwng.