Corwynt Llun: (Canolfan Ofod NASA Goddard CCA2.0
Mae’r awdurdodau yng ngogledd-ddwyrain y Caribî wedi gohirio teithiau awyrennau, cau ysgolion ac annog pobol i chwilio am loches wrth i Gorwynt Irma agosáu.

Mae mesurau argyfwng wedi’u cyflwyno yn Puerto Rico, Ynysoedd y Wyryf a Fflorida wrth i bobol baratoi a diogelu eu cartrefi ar gyfer y storm categori 4, sydd a gwyntoedd yn hyrddio rhwng 130 a 156 milltir yr awr, sy’n agosáu.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi rhybuddio y gall y storm ddod a 10 modfedd o law, gan achosi tirlithriadau, llifogydd a thonnau sydd mor uchel â 23 troedfedd.

Mae’r corwynt ar hyn o bryd wedi’i leoli 320 o filltiroedd i’r dwyrain o ynysoedd Leeward ac yn symud i’r gorllewin gyda chyflymdra o 14 milltir yr awr.

Mae yna siawns y bydd y storm yn troi i gyfeiriad y gogledd hefyd gan deithio i Fflorida, Georgia a Carolina, ac mae trigolion yr ardaloedd hyn wedi’u hannog i fonitro’r sefyllfa.