Vladimir Putin (www.kremlin.ru)
Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi condemnio profion niwclear diweddaraf Gogledd Corea gan ddweud eu bod yn “bryfoclyd”.

Serch hynny, mewn cynhadledd newyddion yn China, fe awgrymodd Vladimir Putin nad oedd yn cefnogi bwriad y Cenhedloedd Unedig o gyflwyno rhagor o sancsiynau yn erbyn Gogledd Corea gan ddweud eu bod yn “aneffeithiol ac yn ddiwerth.”

Roedd Pyongyang wedi cynnal ei phrawf niwclear mwyaf erioed ddydd Sul.

Mae Arlywydd Rwsia wedi galw am gynnal trafodaethau gyda Gogledd Corea ac wedi rhybuddio yn erbyn “hysteria milwrol” gan ddweud nad oedd hynny’n “gwneud synnwyr o gwbl yn y sefyllfa yma.”

Yn y cyfamser mae llynges De Corea wedi bod yn cynnal ymarferiadau milwrol yn y môr mewn ymateb i’r ffrwydrad niwclear.