Mae llongau rhyfel De Corea wedi bod yn cynnal ymarferion milwrol yn y môr ar ôl i Ogledd Corea gynnal ei phrawf niwclear mwyaf erioed ddydd Sul.

Daw’r ymarferion ar ôl i’r Unol Daleithiau rybuddio am “ymateb milwrol sylweddol” yn dilyn y prawf niwclear.

Dywedodd De Corea bod Washington a Seoul wedi cytuno i godi gwaharddiadau ar daflegrau De Corea a fyddai’n eu caniatáu i ddatblygu arfau mwy grymus.

Mae’r ymarferion milwrol yn cael eu cynnal er mwyn rhoi “rhybudd clir” i Pyongyang ynglŷn â’r profion diweddar.

Yn ôl arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, roedd y prawf ddydd Sul yn ymwneud a bom hydrogen. Dyma oedd chweched prawf niwclear Gogledd Corea ers 2006.

Bu Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfod brys ddydd Llun gyda Llysgennad yr Unol Daleithiau Nikki Haley yn dweud mai “digon yw digon” a’i bod yn bryd i’r Cyngor Diogelwch fabwysiadu’r mesurau diplomataidd mwyaf difrifol.

Mae’n ymddangos bod Gogledd Corea yn bwriadu cynnal rhagor o brofion er mwyn ceisio dangos bod ganddi’r gallu i dargedu’r Unol Daleithiau gydag arfau niwclear.