Mae cyd-sylfaenydd a gitarydd y band Americanaidd Steely Dan wedi marw’n 67 oed.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond fe dynnodd Walter Becker yn ôl o nifer o ddigwyddiadau ym mis Gorffennaf oherwydd salwch.

Mae’r band jazz-roc wedi gwerthu dros 40 miliwn o albyms, ac maen nhw yn Oriel yr Enwogion Roc a Rôl ers 2001.

Daeth Walter Becker a’i gyd-sylfaenydd Donald Fagen ynghyd yn Efrog Newydd, a’r ddau yn fyfyrwyr pan gafodd y band ei ffurfio.

Ddechrau’r 1970au, symudodd y band i Galiffornia gan ymuno â’r gitarwyr Jeff Baxter a Denny Dias, y drymiwr Jim Hodder a’r canwr David Palmer.

Cyhoeddodd y band eu halbym cyntaf, Can’t Buy A Thrill, yn 1972.

Roedd Walter Becker hefyd yn llais cefndir ac yn chwaraewr allweddau’r band.

Daethon nhw i ben yn 1981, gan ail-ffurfio yn 1993 a rhyddhau dau albym arall, gan gynnwys enillydd gwobr Grammy, Two Against Nature.

Roedd Walter Becker hefyd yn canu ar ei ben ei hun, ac fe gyhoeddodd ddau albym unigol.