Mae mwy na 60,000 o drigolion Frankfurt wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi ar ôl i fom o’r Ail Ryfel Byd gael ei ddarganfod yno.

Mae cleifion ysbyty a phobol oedrannus ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio.

Daeth adeiladwyr o hyd i’r bom 1.8 tunnell ddydd Mawrth, ac fe fu’n rhaid i drigolion o fewn radiws o 1.5km adael eu cartrefi.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf o’i fath, ac maen nhw’n dal i fod yn gyffredin 72 o flynyddoedd ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben.