Mae saith o ferched wedi’u lladd mewn tân yn un o ysgolion uwchradd prifddinas Cenia.

Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân yn y rhan o Ysgol Ferched Moi yn Nairobi lle’r oedd y disgyblion yn byw ac yn cysgu. Fe fydd yr ysgol ar gau am bythefnos er mwyn caniatau i’r awdurdodau ymchwilio.

Fe ddaw’r digwyddiad diweddaraf hwn ag atgofion yn ol am dân arall yn 2011, pan laddwyd 67 o fyfyrwyr mewn tân mewn ystod yn nwyrain Cenia ym mis Mawrth 2001.

Y llynedd, fe gafodd o leiaf 126 o ysgolion uwchradd eu targedu gan danau bwriadol, a hynny fel rhan o brotest gan fyfyrwyr yn erbyn byrhau’r gwyliau a thorri’n ol ar nifer ymweliadau gan rieni.