Corwynt - Harvey yn ei anterth wythnos yn ol (Canolfan Ofod NASA Goddard CCA2.0)
Fe gododd nifer y meirw yn llifogydd Tecsas i 39, gyda chyhoeddiad tros nos am saith marwolaeth newydd yn ardal Houston.

Mae’r ffigwr yn fach o gymharu â’r mwy na 1,200 sydd wedi marw mewn llifogydd ar draws India, Bangladesh a rhannau eraill o dde Asia, ond mae’r sylw mawr yn parhau wrth i’r tywydd barhau i greu anhrefn yn un o rannau cyfoethoca’r byd.

Bellach mae tuag 87,000 o gartrefi wedi eu dinistrio ac mae’r heddlu a gwasanaethau achub yn chwilio trwy’r gweddillion am bobol sydd wedi dod trwyddi – neu am ragor o gyrff.

Ffrwydradau

Mae un dre’ wedi colli ei chyflenwad dŵr a’r awdurdodau’n cael trafferth oherwydd y llifogydd i fynd â digon o ddŵr potel yno.

Mewn tre’ arall, fe arweiniodd y llifogydd at fethiant systemau oeri mewn ffatri gemegau gan achosi nifer o ffrwydradau a thân.

Mae disgwyl y bydd nifer y meirwon yn codi eto er fod y storm – Harvey – wedi mynd heibio.