Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi dwyn gwestai priodas i’r ddalfa er mwyn ei gwestiynu ynglŷn â diflaniad merch fach 9 oed o barti priodas yn ardal yr Alpau dros y penwythnos.

Cafodd y dyn 34 oed ei ddwyn i’r ddalfa ddydd Iau, a hynny, yn ôl yr heddlu, er mwyn cael gwybodaeth gan berson a adawodd y parti tua’r un adeg ag y diflannodd y ferch yn Pont-de-Beauvoisin – sydd 53 o filltiroedd o Lyon yn ne-ddwyrain Ffrainc.

Mae’n debyg mai enw’r ferch yw Maelys, ac mae llun a disgrifiad ohoni wedi’u rhannu ledled Ffrainc ers ei diflaniad.

Mae’r awdurdodau wedi agor ymchwiliad o herwgipiaeth.