Mae tref Tal Afar yn Irac wedi’i “rhyddhau’n llwyr” o afael y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl Prif Weinidog y wlad – a hynny yn dilyn ymgyrch a barodd gwta bythefnos.

Yn ôl Haider Al-Abadi, fe ddinistriodd byddin y wlad derfysgwyr Daesh yn ardal al-Ayadia, lle roedd y terfysgwyr wedi ffoi yr wythnos ddiwethaf ac sydd tua 6 milltir i’r gogledd-orllewin o Tal Afar.

Ychwanegodd hefyd bod rhyddhau Tal Afar yn golygu bod y cyfan o ardal Ninefeh – yr ardal gyntaf i gael ei dal gan IS yn 2014 – bellach “yn nwylo ein milwyr dewr ni”.

Er hyn, mae’r awdurdodau yn Irac yn dueddol o ddatgan bod ardaloedd wedi cael eu rhyddhau cyn i’r brwydro orffen yn llwyr – ac mae’r terfysgwyr yn y gorffennol wedi brwydro’n ôl yn aml.

Mae IS yn parhau i reoli’r dref ogleddol Hawija, yn ogystal â threfi yng ngorllewin Irac ger Syria.