Mae tân yng ngogledd Calaffornia, sydd wedi dinistrio deg o gartrefi, yn bygwth 800 o rai eraill, yn ôl yr awdurdodau – gan ysgogi nifer o bobol i adael eu cartrefi.

Fe gynheuodd y tân ddydd Mawrth ger tref Orovile ac mae’n un mewn cyfres o danau sy’n ymestyn hyd orllewin yr Unol Daleithiau ac sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Yosmeite yng Nghalaffornia.

Mae’n debyg bod heol boblogaidd yn y parc wedi’i chau, ac mae trigolion trefi cyfagos wedi gorfod ffoi.

Mae’r tân diweddaraf tua 20 milltir i’r dwyrain o Argae Oroville, lle bu’n rhaid i filoedd o bobol islaw’r dyffryn orfod gadael eu cartrefi y llynedd wedi i ddarn o’r argae dorri gan fygwth llifogydd.

Misoedd yn ddiweddarach, ym mis Gorffennaf, fe wnaeth tân tua 15 milltir i’r de o’r agrae ddinistrio 41 o dai.

Mae tanau yn Oregon a Montana yn golygu bod nifer wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yno hefyd.