Mosg yn Herat, Afghanistan
Mae o leiaf 13 o bobol – gan gynnwys menywod a phlant – wedi marw yn Afghanistan, yn dilyn ymosodiad o’r awyr gan luoedd byddin y wlad.

Yn ôl awdurdodau lleol, cafodd saith unigolyn eu hanafu yn sgil yr ymosodiad yn nhalaith Herat, a bu farw 16 o wrthryfelwyr grŵp eithafol y Taliban.

Nod y fyddin oedd targedu pencadlys a charchar dan reolaeth y Taliban. Cafodd y carchar ei ddinistrio a gwnaeth 19 o garcharorion ffoi.

Roedd y fyddin yn ymateb i ffrwydrad gan hunanfomiwr yn ninas Kabul, lle bu farw o leiaf pum person.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydrad.