Mae gwrw dadleuol yn India wedi’i garcharu am ddeng mlynedd, wedi i lys ei gael yn euog o dreisio dwy o’i ddilynwyr.

Fe gyheoddwyd y ddedfryd heddiw (dydd Llun, Awst 28) ymysg tensiwn mawr y tu allan i garchar yn nhref Rohtak, lle’r oedd y gwrw sy’n galw’i hun Dr Saint Gurmeet Singh Ram Rahim Insan, wedi bod yn cael ei gadw ers ei gael yn euog ddydd Gwener.

Mae’r ddedfryd wedi sbarduno protestiadau treisgar gan ei ddilynwyr, ac mae 38 o bobol wedi’u lladd yn y cwffio.

Mae miloedd o blismyn a milwyr wedi’u hanfon i’r dref er mwyn delio â’r trais.