Roedd dyn o Morocco a gafodd ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad brawychol yn y Ffindir, wedi dweud celwydd ynglyn â’i oed a’i enw, meddai’r heddlu.

Fe ddaeth cadarnhad gan un o’r ymchwilwyr i’r achos o drywanu yn ninas Turku fod y dyn ifanc wedi bod yn yr ysbyty ers i’r heddlu ei saethu yn ystod yr ymosodiad cyllell yn gynharach y mis hwn.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, fe roddodd enw a dyddiad geni ffug.

Fe gymrodd hi chwiliadau pellach trwy gofnodion rhyngwladol er mwyn dod o hyd i’w enw a’i oed cywir.

Yn wreiddiol, roedd wedi dweud mai Abderrahmam Mschkah oedd ei enw, a’i fod yn ddeunaw oed. Mewn gwirionedd, fe gafodd ei eni yn 1994, sy’n golygu ei fod yn 22 neu 23 oed.