Mae India a Tsieina wedi cytuno i dynnu eu milwyr yn ol o’r ffin rhwng y ddwy wlad.

Ers rhai wythnosau, mae’r ddwy wlad wedi bod ben-ben tros fater y tir a elwir Doklam, yn nwyrain y Himalayas. Maen nhw wedi bod yn dadlau, trwy ddiplomyddion, ac fe anfonodd y ddwy ochr filwyr i warchod y ffin lle mae’r ddwy wlad yn cyfarfod Bhutan.

“Yn ystod y cyfarthrebu sydd wedi bod yn digwydd trwy ddiplomyddion, rydan ni wedi gallu mynegi ein barn yn glir, ac wedi gallu mynegi ein hofnau a’n diddordebau,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth India.

Mae India hefyd wedi cadarnhau fod y ddwy ochr wedi cytuno i dynnu eu milwyr yn ol o Doklam, a bod y broses honno eisoes wedi dechrau.

Fe gafodd y ffrae ei sbarduno ym mis Mehefin pan anfonodd India filwyr i mewn i ranbarth Doklam er mwyn rhwystro Tsieina rhag adeiladu ffordd newydd yn Bhutan.