Baghdad - ardal Sadr (Llun parth cyhoeddus)
Mae bom car wedi ffrwydro yng nghanol marchnad brysur yn nwyrain Baghdad, gan ladd o leiaf chwech o bobol.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau i’r cerbyd ffrwydro ben bore Llun (Awst 28) ym marchnad Jamila yn yr ardal Shiaidd, Sadr.

Fe gafodd 15 o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad, ac mae’r awdurdodau’n disgwyl i nifer y meirwon godi hefyd.

Fe ddaw’r ymosodiad diweddaraf hwn wrth i luoedd Irac, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, ddod yn nes at gipio tref Tal Afar yng ngogledd y wlad, oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd (IS).